Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 390 KB) Gweld fel (HTML 348 KB)

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; nid oedd dim ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.25)

2.

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - sesiwn dystiolaeth 3

Trudy Aspinwall, Uwch Swyddog Rhaglen - Prosiect 'Teithio Ymlaen' Achub y Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Trudy Aspinwall o raglen ‘Teithio Ymlaen’ Achub y Plant. Cytunodd Trudy i ddarparu canlyniadau'r arolwg o Sipsiwn, Roma a Theithwyr ifanc.

 

(10.25 - 11.20)

3.

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - sesiwn dystiolaeth 4

Y Consortia Rhanbarthol

 

Gill James, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De

Helen Morgan-Rees, Pennaeth Canolfan y Dwyrain – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Martin Dacey, Pennaeth Gwasanaeth Aml-Ethnig Addysg Gwent (GEMS) - Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol. Cytunodd ERW i roi nodyn ar y ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr. 

 

(11.30 - 12.15)

4.

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - sesiwn dystiolaeth 5

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth -  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

 

(12.15)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

5.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg-cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon a'r ymgynghoriad ar y 1000 Diwrnod Cyntaf.

 

 

(12.30 - 13.15)

8.

Sesiwn Friffio ar Faterion Technegol ynghylch y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Emma Williams, Dirprwy Cyfarwyddwr Isadran Cefnogaeth i Ddysgwyr ac Uwch Swyddog Cyfrifol y Bil

Tania Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Rheolwr y Bil

Paul Williams, Rheolwr Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ar y Bil.