Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.15)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

 

(10.30 - 11.30)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Leol

Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Llefarydd ar Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Dirprwy Lefarydd ar Addysg a'r Gymraeg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llefarydd ar y Gweithlu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llefarydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sharon Davies, Pennaeth Addysg ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

3.2 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn cael eu hanfon at y tystion ar gyfer ymateb ysgrifenedig.

 

(11.30)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Addysg, Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2021

Dogfennau ategol:

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Covid-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd ar drywydd rhai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiynau.

 

 

(11.45 - 12.30)

7.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021 - Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Er mwyn bodloni’r dyddiad cau ar gyfer adrodd sef dydd Mawrth 2 Chwefror 2021, cytunodd yr aelodau i ystyried diwygiadau terfynol a chytuno ar yr adroddiad yn electronig.