Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai
hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Suzy Davies AS yn Gadeirydd
Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd
Vikki Howells AS ar ei rhan. |
|
(09.00 - 09.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Kirsty Williams
AS, y Gweinidog Addysg Huw Morris -
Cyfarwyddwr Grŵp
Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Steve Davies,
Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog
Addysg. |
|
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 Kirsty Williams
AS, y Gweinidog Addysg Huw Morris - Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes,
Llywodraeth Cymru Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Addysg
mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am
y materion a ganlyn: - sut mae'r £29 miliwn ar gyfer y rhaglen 'Recriwtio,
Adfer a Chodi Safonau' wedi'i wario hyd yma ac wedi'i ddyrannu ar gyfer 2021 -
2022; - manylion y newidiadau demograffig a ddisgwylir yn ystod
y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'r cynnydd o £21.7 miliwn mewn cyllid
6ed Dosbarth ac Addysg Bellach. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y
ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft. |
|
(10.45 - 12.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl,
Llesiant a’r Gymraeg Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Llywodraeth Cymru Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu
Tlodi - Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl,
Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed - Llywodraeth Cymru Dr Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol ar gyfer
Iechyd Mamau a Phlant
– Llywodraeth Cymru Steve Elliot,
Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidogion mewn
perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22. 4.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddarparu nodyn ar y dangosyddion a ddefnyddir ar gyfer y
fformiwla newydd i ddyrannu cyllid i fyrddau iechyd a sut y mae'n ystyried
anghenion a nodweddion penodol y boblogaeth mewn gwahanol rannau o Gymru. 4.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddarparu nodyn am yr £8 miliwn a gafodd awdurdodau lleol ar
gyfer gwasanaethau cymdeithasol a phlant o dan y gronfa caledi llywodraeth
leol. 4.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
hefyd i ddarparu adroddiad fframwaith canlyniadau traws-Lywodraethol i'r
Pwyllgor sy'n ymwneud â'r grant Plant a Chymunedau, pan fydd ar gael. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y
ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |