Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(10.00 - 11.30)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar Addysg a Llywodraeth Leol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Steve Davies –Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Ruth Conway - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cymorth i Ddysgwyr

Kevin Palmer –Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol

Nicola Edwards - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

John Howells - Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio –

Richard Baker - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Tir

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu yr Argyfwng Covid

Judith Cole - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cyllid Llywodraeth Leol a Phartneriaeth y Gweithlu

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd aelodau’r Pwyllgor Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar wasanaethau addysg a llywodraeth leol.

 

2.2 Cytunodd Tracey Burke i:

·         anfon nodyn ar y ganran ddiweddaraf o ddysgwyr sy'n mynychu'r ysgol; a’r

·         wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i gynorthwyo dysgwyr o'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ers ei llythyr ar 8 Medi 2020.

 

(11.30 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.