Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 11.10)

2.

Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Archwilio Cymru - Sylwebaeth ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2019-20

PAC(5)-24-20 Papur 1 – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20

PAC(5)-24-20 Papur 2 - Llythyr ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (6 Tachwedd 2020)

PAC(5)-24-20 Papur 3 - Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (29 Hydref 2020)

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans – Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

David Richards – Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol ac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20.

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai’n:

·         Anfon copi o’r papur asesu technegol a baratowyd ar gyfer Trysorlys Ei Mawrhydi, ac wedi hynny i’w ystyried gan y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol (FRAB) ynghylch y weithdrefn ar gyfer ymdrin â grantiau mewn amgylchiadau eithriadol.

·         Rhoi trosolwg o nifer a natur unrhyw gontractau sy’n bodoli, os o gwbl, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19.

·         Cadarnhau a oedd contract ar waith gyda Lighthouse Labs, ac os felly, a oedd yn cynnwys cymalau ar gyfer amseroedd cyflawni, ac a fyddai perfformiad gwael wedi bod yn gyfystyr â thorri ar y contract.

·         Cadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru gontract neu gytundeb ysgrifenedig arall gyda Llywodraeth y DU ar gyfer cyrchu a darparu’r brechlyn Covid-19.

·         Rhoi gwybodaeth ychwanegol am amseriad disgwyliedig derbyniadau rhaglenni’r UE.

·         Darparu sail resymegol o ran sut mae model yr Adran Addysg, a ddefnyddir i gyfrifo dileu benthyciadau myfyrwyr, wedi’i addasu i’w ddefnyddio yng Nghymru.

·         Cadarnhau faint o log oedd yn daladwy ar y ffi warant ynghyd â’r costau cyfreithiol cysylltiedig o ran dileu’r prosiect Cylchffordd Cymru.

·         Darparu tabl sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd am dir ac adeiladau, a’r swm y cawsant eu gwerthu amdano wedi hynny, yn dilyn y cyhoeddiad na fyddai cynllun coridor yr M4 yn mynd yn ei flaen. Bydd y pris prynu hefyd yn dangos y pris malltod a’r gwir bris prisio.

2.3 Cytunodd Andrew Slade i gynnwys sylwebaeth ynghylch y canfyddiad ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer y Ganolfan Confensiwn Rhyngwladol yn ei lythyr ar gyllid busnesau, sy’n cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor ar hyn o bryd.

 

(11.10 - 11.15)

3.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

3a

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Tachwedd 2020)

Dogfennau ategol:

(11.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5 a 6 a’r cyfarfod ar 30 Tachwedd 2020

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.20 - 12.00)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i waith craffu ar Gyfrifon Cyfunol ac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20 ar 7 Rhagfyr 2020.

 

(12.00 - 12.15)

6.

Blaenraglen waith: Blaenraglen Waith ar gyfer y gwanwyn 2021

PAC(5)–24-20 Papur 4 – Rhaglen waith Gwanwyn 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith ar gyfer y gwanwyn 2021.