Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2a

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Fenter Dwyll Genedlaethol 2018-20

PAC(5)-22-20 PTN1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20

 

 

2b

Gwella ffordd yr A465 Rhan 2: Gwybodaeth ychwanegol gan Llywodraeth Cymru

PAC(5)-22-20 PTN2 - Gwybodaeth ychwanegol gan Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

2c

Addasiadau Tai: Diweddariad gan Llywodraeth Cymru (22 Hydref 2020)

Dogfennau ategol:

2d

Gwasanaethau Rheilffyrdd: Llythyr gan Trafnidiaeth Cymru a KeolisAmey Wales Cymru (22 Hydref 2020)

Dogfennau ategol:

2e

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad (22 Hydref 2020)

Dogfennau ategol:

(09.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 4, 5, 6 a 7

 

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.45 - 11.15)

4.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch materion iechyd

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-22-20 Papur 1 - Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (3 Tachwedd 2020)

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr y GIG ar y sefyllfa bresennol o ran Covid-19 a'i effaith ar faterion iechyd.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.

 

(11.15 - 12.00)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Comisiwn y Senedd – Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-22-20 Papur 2 – Adroddiad drafft

PAC(5)-22-20 Papur 3 – Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd (20 Hydref 2020)

PAC(5)-22-20 Papur 3A – Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd (4 Tachwedd 2020)

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau'r ddau lythyr.

5.2 Yn amodol ar ddau ddiwygiad bach, cytunwyd ar yr adroddiad a threfnir i’w gyhoeddi ym mis Tachwedd 2020. 

 

 

(12.00 - 12.15)

6.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru

PAC(5)-22-20 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru

 

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

6.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ei barn am nifer o faterion.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Allbynnau rheolaeth ariannol llywodraeth leol

PAC(5)-22-20 Papur 5: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19

PAC(5)-22-20 Papur 6 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol

 

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau.