Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Gwnaeth Jenny Rathbone AS ddatgan buddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd 2013 - 2015.

1.3            Diolchodd y Cadeirydd i Anthony Barrett a Mike Usher am eu cyfraniadau i archwiliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a'u rolau wrth gefnogi'r Pwyllgor. Dymunodd yn dda i'r ddau ohonynt, ar ran y Pwyllgor, yn dilyn eu hymadawiad diweddar o  Archwilio Cymru.

 

(09.45 - 09.50)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2a

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cracio'r Cod - Rheoli Codio Clinigol Ledled Cymru

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cracio’r Cod – Rheoli Codio Clinigol Ledled Cymru

2b

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: 10 Cyfle i Ailosod ac Ailgychwyn System Gofal wedi’i Gynllunio y GIG

(09.50-11.20)

3.

Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

PAC(5)-20-20 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Timothy Render - Cyfarwyddwr, Tir, Natur a Bwyd, Llywodraeth Cymru

Hugh Morgan - Pennaeth Taliadau Gwledig, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y tystion eu holi gan yr Aelodau ynghylch Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian.

3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon peth gwybodaeth ychwanegol at y Pwyllgor.

 

(11.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5 a 6, ac o’r cyfarfod ar 12 Hydref 2020

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.25 - 11.45)

5.

Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.45 - 12.15)

6.

Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Cynllunio digwyddiadau rhanddeiliaid

PAC(5)-20-20 Papur 2 - Cynllunio digwyddiad rhanddeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur a’i nodi.