Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.55)

1.

Ymchwiliad i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Papur cwmpasu

PAC(5) -17-20 Papur 1 - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad a chytunwyd ar sut y dylai'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.

 

(10.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Croesawodd y Cadeirydd Angela Burns AS i'r Pwyllgor, yn dilyn ei hethol ar 5 Awst 2020.

 

(10.00 - 10.15)

3.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3a

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (27 Awst 2020)

Dogfennau ategol:

3b

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020)

Dogfennau ategol:

(10.15 - 11.30)

4.

Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

PAC(5)-17-20 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-17-20 Papur 3 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch caffael Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).

PAC(5)-17-20 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch caffael prydau ysgol

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft – Cyfarwyddwr, Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

Marcella Maxwell - Dirprwy Gyfarwyddwr Caffaeiliad Masnachol a Strategaeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holwyd y tystion gan Aelodau ynghylch Caffael Cyhoeddus.

4.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o’r materion a godwyd.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 a 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.35 - 11.50)

6.

Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor.

 

(11.50 - 12.30)

7.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-17-20 Papur 5 –Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-17-20 Papur 6 – Strategaeth Cymraeg: Mae’n perthyn i ni i gyd: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (28 Gorffennaf 2020)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

7.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol ynglŷn â nifer o faterion ac y byddair gweddill yn cael sylw yn y sesiwn dystiolaeth sydd i ddod ar graffu cyfrifon 2019-20.