Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Gadeiryddion y Pwyllgorau eraill a oedd yn ymweld, Llyr Gruffydd AS, Helen Mary Jones AS a Dai Lloyd AS.

 

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS.

 

 

(13.30 - 15.00)

2.

Gwaith ar Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Briffio ar yr Adroddiadau Statudol cyntaf

Briff Ymchwil

PAC(5) -12-20 Papur 1 - Archwilio Cymru – Felly, beth sy'n wahanol? - Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol (Mai 2020) (1MB)

PAC(5) -12-20 Papur 2 - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru - Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 (Mai 2020) (136MB)

PAC(5)-12-20 Papur 3 - Llywodraeth Cymru - Datganiad Ysgrifenedig: Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Marie Brousseau-Navarro – Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Heledd Morgan - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor friff ar yr Adroddiadau Statudol cyntaf ar Waith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

2.2 Holodd yr Aelodau’r tystion.

 

 

(15.10 - 15.30)

3.

Gwaith ar Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Trafodaeth am Ymchwiliad y Pwyllgor sydd ar ddod

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad sydd ar ddod ar Waith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac at Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan anfon copi at Gadeirydd pob Pwyllgor arall y Senedd, yn amlinellu rhai o’r casgliadau ac ystyriaethau cychwynnol ar gyfer y camau nesaf i hwyluso gwaith craffu’r Senedd.

 

 

(15.30 - 16.00)

4.

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5) -12-20 Papur 4 - Adroddiad Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a bydd yn trafod y drafft ymhellach yn ei gyfarfod ar 8 Mehefin 2020.