Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AC.

 

(13.00)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:

2.2

Caffael Cyhoeddus: Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (28 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:

2.3

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (4 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:

2.4

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:

(13.10 - 13.25)

3.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law ar 9 Mawrth 2020.

 

(13.25 - 13.45)

4.

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a’r prif faterion

Papur Briffio: Materion Allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law ar 9 Mawrth 2020 ac ystyriodd y papur ar y materion allweddol.

 

(13.45 - 14.15)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-10-20 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y ail ddrafft o’r adroddiad.

5.2 Cytunwyd y dylid mynd â drafft pellach i'r Pwyllgor ar 23 Mawrth, yn dilyn y gwelliannau a awgrymwyd heddiw.

 

(14.15 - 14.45)

6.

Blaenraglen waith: Haf 2020

PAC(5)-10-20 Papur 2 – Blaenraglen Waith

PAC(5)-10-20 Papur 3 – Rhaglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y blaenraglen waith ar gyfer tymor haf 2020 a nododd y gallai newid yn dibynnu ar y sefyllfa o ran Coronafeirws.

 

(14.45 - 15.30)

7.

Gwella Ffordd A465 Adran 2: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Papur Briffio

PAC(5)-10-20 Papur 4 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: A465 Rhan 2 – Canfyddiadau Interim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru cyn y sesiwn dystiolaeth sydd ar ddod gyda Llywodraeth Cymru.

 

(15.30 - 15.45)

8.

Rheoli Gwastraff: Trafod y llythyr drafft

PAC(5)-10-20 Papur 5 – Llythr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft a chytunodd arno.