Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(13.00) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru (27 Chwefror 2020) Dogfennau ategol: |
||
Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Adran 106 - Sylwadau gan Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (27 Chwefror 2020) Dogfennau ategol: |
||
(13.00 - 14.30) |
Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-09-20
Papur 1 – Llywodraeth Cymru Andrew Slade -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru John Howells -
Cyfarwyddwr, Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru Neil
Hemington - Prif Gynllunydd, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Aelodau'n holi Andrew Slade, John Howells a Neil
Hemington fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Effeithiolrwydd Awdurdodau
Cynllunio Lleol yng Nghymru. 3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon copïau o ganllawiau
Cymorth Cynllunio Cymru at y Pwyllgor. 3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n ysgrifennu
atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod. |
|
(14.40 - 15.45) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-09-20 Papur
2 – Llywodraeth Cymru PAC(5)-09-20 Papur
3 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Chwefror 2020) Dr Andrew Goodall
- Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr
GIG Cymru Alan Brace -
Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Holodd yr Aelodau Dr Andrew Goodall ac Alan Brace fel
rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. 4.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon nodyn yn cynnwys
enghreifftiau o fentrau a phrosiectau sy'n helpu i reoli’r broses o leoli staff
asiantaeth, a hynny fel rhan o weithgarwch ehangach ar gynllunio'r gweithlu. |
|
(15.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6 & 7
a’r cyfarfod ar 16 Mawrth 2020 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.45 - 16.10) |
Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a’r prif faterion Cofnodion: 6.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w
thrafod yn y cyfarfod nesaf. |
|
(16.10 - 16.30) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w
thrafod yn y cyfarfod nesaf. |