Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/10/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Gareth Bennett AC ac Adam Price AC.

 

(13.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i Lywodraeth Cymru ar ei chynllun i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio.

 

2.1

Gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (24 Medi 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

(13.05 - 14:25)

3.

Rheoli gwastraff: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tim Peppin - Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Craig Mitchell - Pennaeth Cymorth Gwastraff, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i reoli gwastraff.

 

(14.30 - 15.40)

4.

Rheoli gwastraff: Sesiwn dystiolaeth gyda Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau Cymru

PAC(5)-25-19 - Papur 1 – WRAP Cymru 

 

Bettina Gilbert – Rheolwr Ardal Rhaglenni, Datblygu Marchnadoedd, WRAP Cymru

Emma Hallett – Rheolwr Tîm, Rhaglen Newid Cydweithredol, WRAP Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Raglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i reoli gwastraff.

 

 

(15.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.40 - 16.00)

6.

Rheoli gwastraff: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.