Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

 

(13.30 - 13.35)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Rheoli meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (17 Ionawr 2019)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 15.05)

3.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-19 Papur 1 – Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru – sylwadau ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, “Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Chwefror 2016”

PAC(5)-03-19 Papur 2 - Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru – pecyn briffio

 

Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Mark Thornton – Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Garth Higginbotham – Is-gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Geoff Ryall-Harvey, y Prif Swyddog; Mark Thornton, y Cadeirydd, a Garth Higginbotham, Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd yn sgil Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

3.2 Cytunodd Geoff Ryall-Harvey i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch:

 

·         Y rhaglen o ymweliadau â chyfleusterau iechyd meddwl ers mis Mai 2017 ynghyd ag unrhyw adroddiadau perthnasol;

·         Data sy'n ymwneud â nifer y staff asiantaeth a gyflogir gan wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

·         Chopi o adroddiad y Cyngor Iechyd Cymuned, Ein Bywydau ar Stop.

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, 7, 8 & 9

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.25)

5.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

(15.25 - 15.40)

6.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Adborth ar waith ymgysylltu'r Aelodau gyda gwasanaethau y tu allan i oriau

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau eu hymweliadau diweddar â gwasanaethau y tu allan i oriau.

 

(15.40 - 16.15)

7.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-03-19 Papur 3 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau benodau terfynol yr adroddiad drafft gan nodi y byddai fersiwn ddiwygiedig yn barod i'w thafod ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 11 Chwefror.

 

(16.15 - 16.30)

8.

Cynllun tocynnau bws rhatach Llywodraeth Cymru i bobl ifanc - Fy Ngherdyn Teithio: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-19 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-19 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau  adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gytuno i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.

 

(16.30 -16.45)

9.

Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-19 Papur 6 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a nododd y byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn edrych ar gostau staff asiantaeth fel rhan o'r gwaith o graffu ar bob bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf. Cytunodd yr Aelodau i gadw llygad ar y mater hwn.