Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

1.3       Datganodd Lee Waters AC fuddiant ar gyfer Eitem 4 gan fod ei wraig yn gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(14.05 - 14.15)

3.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-19-18 Papur 1 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PAC(5)-19-18 Papur 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

PAC(5)-19-18 Papur 3 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(5)-19-18 Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

PAC(5)-19-18 Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

PAC(5)-19-18 Papur 6 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

PAC(5)-19-18 Papur 7 – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

PAC(5)-19-18 Papur 8 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(14.15 - 15.15)

4.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Allison Williams - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Steve Webster - Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Steve Webster, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o'r ymchwiliad i Weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

4.2 Cytunodd Steve Webster i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfran yr arbedion nad oeddent yn digwydd eto yn 2017-18.

 

(15.25 - 16.15)

5.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Jacinta Abraham – Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Mark Osland – Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodeg, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Stuart Morris – Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodeg Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Mark Osland, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodeg, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodeg, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

 

(16.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 7, 8 a 9 ac Eitem 1 yng nghyfarfod 9 Gorffennaf 2018.

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.15 - 16.30)

7.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.30 - 16.45)

8.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.45 - 17.00)

9.

Blaenraglen waith: Tymor yr hydref 2018

PAC(5)-18-18 Papur 9 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2018 a chytuno arni.