Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(13.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(13.05 - 14.00)

3.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru, ynghylch cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(14.00)

4.

Caffael Cyhoeddus: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-04-18 PTN 1– Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-04-18 PTN 2 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

PAC(5)-04-18 PTN 3 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-04-18 PTN 4 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

PAC(5)-04-18 PTN 5 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Jayne Lynch – Prifysgol Caerdydd

PAC(5)-04-18 PTN 6 - Ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus: Ymateb gan Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru (HEPCW)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd yr ymatebion.

 

(14.05 - 14.50)

5.

Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth 1

Briff Ymchwil

 

PAC(5)-04-18 Papur 1 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

PAC(5)-04-18 Papur 2 – Cyngor Caerdydd

 

Liz Lucas – Pennaeth Caffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Steve Robinson - Pennaeth Caffael, Cyngor Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Liz Lucas, Pennaeth Caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Steve Robinson, Pennaeth Caffael Cyngor Caerdydd, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.

5.2 Cytunodd Liz Lucas i anfon gwybodaeth am y mathau o nwyddau a gwasanaethau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u prynu drwy fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron ac am werth y nwyddau a'r gwasanaethau hyn.

 

(15.00 -15.50)

6.

Caffael Cyhoeddus: Sesiwn Dystiolaeth 2 (Drwy fideogynhadledd)

PAC(5)-04-18 Papur 2 – Cyngor Sir Ddinbych

 

Mike Halstead – Pennaeth Archwilio a Chaffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Arwel Staples – Rheolwr Caffael Strategol, Cyngor Sir Ddinbych

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Halstead, Pennaeth Archwilio a Chaffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac Arwel Staples, Rheolwr Caffael Strategol Cyngor Sir Ddinbych, fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.

 

 

(15.50 - 16.40)

7.

Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth 3

PAC(5)-04-18 Papur 3 - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Dr Eurgain Powell - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Dr Eurgain Powell o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i gaffael cyhoeddus.

 

 

(16.40)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 9 a 10 ac Eitemau 1 a 2 y cyfarfod ar 12 Chwefror 2018

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.40 - 16.50)

9.

Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.50 - 17.00)

10.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd yr Aelodau y dylai’r Clercod baratoi adroddiad drafft y byddant yn ei drafod ynghyd â'r wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.