Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 803KB) Gweld fel HTML (351KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 O ran y llythyr ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, cytunodd y Pwyllgor y byddai angen eglurhad pellach, yn enwedig ar yr amserlen ar gyfer gweithredu'r mentrau. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a chytunwyd i drefnu sesiwn dystiolaeth cyn diwedd y tymor.

 

2.1

Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (29 Medi 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Adroddiad Rheoli Grantiau Llywodraeth Cymru: Adroddiad Blynyddol Interim 2016-17

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.15)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Chwaraeon Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-25-17 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Chwaraeon Cymru

PAC(5)-25-17 Papur 2 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru

 

Sarah Powell - Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru

Peter Curran - Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Chwaraeon Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â Chwaraeon Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol yn cynnwys Paul Garrett. 

3.2 Bu'r Aelodau'n craffu ar Sarah Powell, Prif Weithredwr a Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Chwaraeon Cymru ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.

3.3 Cytunodd Sarah Powell i anfon rhagor o fanylion ar faint o fuddsoddiad y mae'r Rhaglenni 5 x 60 a Champau'r Ddraig wedi ei dderbyn ynghyd â'r dull o werthuso effeithiolrwydd y rhaglenni hyn ynghyd â'r set olaf o ddata gwerthuso.

 

(15.25 - 16.30)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Comisiwn y Cynulliad

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-25-17 Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2016-17

 

Manon Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Suzy Davies AC - Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Nia Morgan - Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.

4.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i anfon copi o'r Adroddiad Adolygu Capasiti i'r Pwyllgor, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6 & 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.50)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.50 - 17.00)

7.

Rhaglen Waith: Senedd@Delyn

PAC(5)-25-17 Papur 4 – Llythyr oddi wrth y Llywydd (28 Medi 2017)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o gymryd rhan yn yr wythnos Senedd@Delyn ond yn anffodus, oherwydd bod gan y mwyafrif ymrwymiadau blaenorol, ni fydd y Pwyllgor yn gallu cymryd rhan.