Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.
Roedd Rhianon Passmore AC yn absennol. |
|
(14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (10 Mai 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.50) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-15-17 Papur 1 – Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16 PAC(5)-15-17 Papur 2 - Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm David Sulman - Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y
Deyrnas Unedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Sulman, Cyfarwyddwr
Gweithredol, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU fel rhan o'i ymchwiliad i'r
gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. |
|
(14.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.50 - 15.05) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd gan Mr Sulman. |
|
(15.15 - 16.45) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-15-17 Papur 3 – Adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-15-17 Papur 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-15-17 Papur 5 - Cyfoeth Naturiol Cymru – Adroddiad
Archwilio Mewnol: Contractau Hirdymor ynghylch Gwerthu Pren (Mai 2017) Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Kevin Ingram – Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a
Gwasanaethau Corfforaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin
Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth
Naturiol Cymru o ran Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol
Cymru. 6.2 Craffodd yr Aelodau ar Dr Emyr Roberts a Kevin Ingram ar adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Ddatblygu Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd
ym mis Chwefror 2016. 6.3 Cytunodd Dr Roberts i anfon diweddariad ar ddangosyddion perfformiad
CNC a chynnwys cymhariaeth blwyddyn wrth flwyddyn er mwyn galluogi'r Pwyllgor i
asesu tueddiadau mewn perfformiad. |
|
(16.45 - 17.00) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Bu'r Aelodau yn trafod y
dystiolaeth a ddaeth i law wrth graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon ar y dull a
gymerwyd gan CNC at yr ymarfer tendro yn 2012 a nodwyd bod gwrthdaro o ran
tystiolaeth gan y ddwy set o dystion ynghylch y mater hwn. Gofynnwyd i'r
Clercod archwilio ymhellach gyda Mr Sulman beth oedd cyflwr y farchnad bren a
beth oedd e'n teimlo y gallai CNC fod wedi'i wneud i ehangu cwmpas y tendr. 7.2 Nododd yr Aelodau y bydd yr adroddiad drafft ar gael iddynt i'w drafod
yng Nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin. 7.3 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol
Cymru yn dilyn craffu ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y
bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig â materion y mae'r Pwyllgor yn dymuno iddynt gael
eu cynnwys yng ngwaith craffu blynyddol y Pwyllgor ar CNC yn nhymor yr hydref. |