Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 965KB) Gweld fel HTML
(220KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar a Lee Waters. Ni chafwyd dirprwyon. |
|
(14.00 - 14.10) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol: Sesiwn ymadawol - Y Cadeirydd i ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am eglurhad o wir gost mesurau gwrth-dwyll ac nid
dim ond adnoddau staff yr Uned Gwrth-Dwyll. Maes Awyr Caerdydd - Y Cadeirydd i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar Cardiff Aviation Limited
ac yn benodol yr ymarfer diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd yn 2012. Kancoat - Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn a oedd y risg o fod
yn ddibynnol ar un cyflenwr wedi'i nodi, ac a gymerwyd camau lliniaru mewn
perthynas â hyn. Mae'r Pwyllgor hefyd yn dymuno cwestiynu'r weithdrefn
diwydrwydd dyladwy o ystyried ei fod yn seiliedig ar brisiad 2011 a bod y
swyddog diwydrwydd dyladwy wedi awgrymu y dylid comisiynu prisiad newydd. Dyled hanesyddol Llywodraeth Cymru - Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y mater hwn yn
ei waith craffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2016-17 yn ystod hydref
2017. Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal rhai gwiriadau ynghylch
tarddiad y ddyled a chynghori'r Pwyllgor yn unol â hynny. |
|
Sesiwn ymadawol: Gwybodaeth ychwanegol gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraeth Cymru yn cyllido Kancoat Cyf: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (28 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Dyled hanesyddol Llywodraeth Cymru: Llythyr oddi wrth Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (29 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (30 Tachwedd 2016) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Parodrwydd ar gyfer cyflwyno pwerau cyllidol Dogfennau ategol: |
||
(14.10 - 15.15) |
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru Briff Ymchwil PAC(5)-13-16 Papur 1 - Llythyr gan Lywodraeth Cymru James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a
Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru James Morris - Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac
Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol,
yr Economi, Sgiliau a Grŵp Adnoddau Naturiol, Matthew Quinn, Cyfarwyddwr,
Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a James Morris, Pennaeth Tîm Erydu Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol,
Llywodraeth Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Cytunodd James Price i: · Anfon nodyn ar
y posibilrwydd y gallai caniatâd cynllunio yn y dyfodol gynnwys cyfyngiadau ar
ddatblygwyr i blannu coed, cyfyngu ar y defnydd o bafin bloc er enghraifft, i
leihau effaith llifogydd. · Anfon nodyn ar
y realiti bod adeiladu wedi digwydd ar dir gwael agored i lifogydd a bod
posibilrwydd y bydd datblygiadau pellach yn digwydd yn y dyfodol. |
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6, 7, 8, a 9 o cyfarfod heddiw a’r cyfarfod ar 9 Ionawr 2017 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.25 - 15.40) |
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i gyhoeddi
adroddiad byr yn dilyn eu sesiynau tystiolaeth. |
|
(15.40 - 15.55) |
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Briff Ymchwil PAC(5)-13-16 Papur 2 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-13-16 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar adroddiad diweddar Archwilydd
Cyffredinol Cymru ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Comisiynwyr
Heddlu a Throsedd ac ar ôl ystyried eu hymatebion, yn ystyried a ddylid cynnal
sesiynau tystiolaeth lafar ar y mater hwn. |
|
(15.55-16.10) |
Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Briff Ymchwil PAC(5)-13-16 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-13-16 Papur 5 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar adroddiad diweddar Archwilydd
Cyffredinol Cymru ar ddull strategol cynghorau i greu incwm a chodi tâl. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn yn ystod
gwanwyn 2017. |
|
(16.10 - 16.40) |
Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Y Prif Faterion PAC(5)-13-16 Papur 6 - Dadansoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru o
gwestiynau a ofynnwyd i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre PAC(5)-13–16 Papur 7 – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg PAC(5)-13-16 Papur 8 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan PAC(5)-13-16 Papur 9 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PAC(5)-13-16 Papur 10 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro PAC(5)-13-16 Papur 11 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf PAC(5)-13-16 Papur 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda PAC(5)-13-16 Papur 13 - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys PAC(5)-13-16 Papur 14 - Ymddiriedolaeth GIG Felindre Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cafodd y papurau eu nodi. 8.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad byr. |