Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel  HTML (317KB)

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Croesawodd y Cadeirydd Neil McEvoy AC sydd wedi cymryd lle Rhun ap Iorwerth AC ar y Pwyllgor. Gofynnodd y Cadeirydd i'w ddiolch i Rhun ap Iorwerth AC gael ei gofnodi.

1.3       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Nododd y Pwyllgor i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Cwm Taf estyn gwahoddiad iddo fynd am sesiwn i flasu bwyd yr ysbyty, a'r broses arlwyo o'r gegin i'r claf. Cytunodd yr Aelodau i wneud hynny - bydd y clercod trefnu.

 

2.1

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (20 Hydref 2016)

2.2

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (26 Hydref 2016)

(14.05-14.20)

3.

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Adroddiad cynnydd gan Lywodraeth Cymru.

Briff Ymchwil

PAC(5)-08-16 Papur 1

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.

 

(14.20-14.35)

4.

Gofal heb ei drefnu: Adroddiad cynnydd gan Lywodraeth Cymru.

Briff Ymchwil

PAC(5)-06-16 Papur 2

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i:

·       anfon disgrifiad o'r cyflyrau clinigol a gaiff eu cynnwys yn y categorïau coch, ambr a gwyrdd o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambiwlans;

·       anfon ffigurau pellach o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr, a manylion ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd ymateb ar gyfer y galwadau hyn;

·       ymchwilio i sut y mae byrddau iechyd yn dygymod â gwasanaethu y tu allan i oriau meddygon teulu ac adrodd yn ôl ar hynny.

 

 

 

 

(14.35-14.50)

5.

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru.

Briff Ymchwil

PAC(5)-08-16 Papur 3

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.

 

 

(14.50 - 15:05)

6.

Adolygiad o effaith ymarfer preifat ar ddarpariaeth gwasanaethau orthodpedig y GIG

Papur Briffio Ymchwil - Adolygiad o Effaith Practisiau Preifat ar Ddarpariaeth y GIG

PAC(5)-08-16 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Adolygiad o effaith Practisiau Preifat ar Ddarpariaeth y GIG

Briff Ymchwil - Gwasanaethau Orthopaedig

PAC(5)-08-016 Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Gwasanaethau Orthopaedig

PAC(5)-08-016 Papur 6 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.

 

 

(15.05)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 8 ac 10

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

8.

Trafodaeth ar adroddiadau cynnydd ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd.

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y canlynol:

 

Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a'r adolygiad ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd i'w gynnal yn ystod tymor y gwanwyn 2017. Cytunwyd i ailystyried a hoffent archwilio'r fframwaith ar y trefniadau dwysáu ac ymyrraeth wedi i'r adroddiad dan sylw ddod i law.

 

Gofal heb ei drefnu

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd mai'r ffordd orau o symud y mater hwn yn ei flaen fyddai drwy'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG:

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a nodwyd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn edrych ar sut y mae pob bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hawliadau ar ôl iddo ddychwelyd o Bowys lle'r oedd yn cynnal adolygiad blynyddol o fyrddau iechyd.

 

Adolygiad o effaith practis preifat ar ddarpariaeth y GIG;

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi'r argymhellion a dderbyniwyd o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, a gofyn hefyd i gael gwybod beth yw dyddiad cyhoeddi'r Cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig a chanllawiau i gleifion sy'n trosglwyddo o bractis preifat i restrau aros y GIG.

 

Gwasanaethau Orthopedig

Cytunodd yr Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros y GIG mewn Gofal Dewisol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015) ar waith, a byddant yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf ynghyd â'r diweddariadau o ran y gwasanaethau orthopedig.

 

 

 

(15.30 - 16.45)

9.

Sesiwn ffarwél Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

 

Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél ar gyfer Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

9.2 Cytunodd Syr Derek Jones i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda rhagor o fanylion ynghylch sut y dechreuwyd mynd i'r afael â'r honiadau a wnaed gan y sawl a chwythodd y chwiban ynghylch camddefnyddio'r cynllun bws rhatach.

9.3 Diolchodd y Cadeirydd i Syr Derek Jones am fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a chyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Pedwerydd Cynulliad, a dymunodd y gorau iddo yn y dyfodol ar ran y Pwyllgor.

 

(16.45-17.00)

10.

Sesiwn ffarwél: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, ac wrth i'r Pwyllgor drafod y sesiwn ffarwél, cytunodd yr Aelodau i ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i anfon manylion pellach am Uned Gwrth-Dwyll Llywodraeth Cymru ynghyd â'i chyllideb.