Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 196KB) Gweld fel HTML (195KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd Anthony Barrett (yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol) yn bresennol ar ei ran.

 

(14.00-14.15)

2.

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad

PAC(5)-03-16 Papur 1: Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 2: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor blaenorol ar Lywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru.

2.2 Nododd y Pwyllgor sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru bod ymatebion Llywodraeth Cymru, yn ei farn ef, yn rhesymol ac yn rhoi sicrwydd bod camau naill ai'n mynd rhagddynt mewn meysydd lle y mynegwyd pryderon, neu fod camau wedi'u cynllunio ar gyfer y meysydd hynny.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o'r ymatebion i adroddiad y Pwyllgor blaenorol.

 

(14.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitimau 4, 5, 6, 7, 8, 9 & 11

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.15-14.20)

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Cylchffordd Cymru

PAC(5)-03-16 PTN1: Llythyr oddi wrth David T. C. Davies AS at Nick Ramsay AC

PAC(5)-03-16 PTN2: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 PTN1: Llythyr oddi wrth Nick Ramsay AC at David T. C. Davies AS

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Aeth yr Aelodau ati i drafod a nodi'r ohebiaeth a chytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl i ganfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod i law.

 

(14.20-14.30)

5.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cenedlaethol Cymru
PAC(5)-03-16 Papur 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

(14.30-14.40)

6.

Y Fenter Dwyll Genedlaethol: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 5: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 6: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Fenter Dwyll Genedlaethol.

 

 

(14.40-14.50)

7.

Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 7: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 8: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd.

 

 

(14.50-15.00)

8.

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 9 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 10 – Llythyr oddi wrth y Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru at Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 11 – Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Deisebau ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai a'r ohebiaeth gysylltiedig.

 

 

(15.00-15.20)

9.

Y rhaglen waith: Trafod Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ymchwiliadau a arweinir gan y Pwyllgor

PAC(5)-03-16 Papur 12 - Papur Cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau'r deunydd briffio a gafwyd yn sgil adroddiadau diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd â'r papur cwmpasu ar ymchwiliadau posibl y gallai'r Pwyllgor eu harwain.

9.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:

·       Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol: ailystyried a ddylid cynnal ymchwiliad ar ôl cael ymateb gan Lywodraeth Cymru;

·       Y Fenter Dwyll Genedlaethol: nodwyd yr adroddiad a chytunwyd arno. Nid oes unrhyw gamau pellach ar gyfer y Pwyllgor;

·       Kancoat: cytunwyd i gynnal un sesiwn dystiolaeth â Llywodraeth Cymru;

·       Arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai: teimlai'r Pwyllgor fod y cynnydd yn araf mewn nifer o feysydd, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.

9.3 Ar ôl trafod yr ymchwiliadau posibl y gallai'r Pwyllgor eu harwain, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliadau i blant sy'n derbyn gofal a chymdeithasau tai.

 

 

 

10.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Comisiwn y Cynulliad

PAC(5)-03-16 Papur 13 – Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16

PAC(5)-03-16 Papur 14 – Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16 - Crynodeb Gweithredol

Briff Ymchwil

 

Suzy Davies AC – Comisiynydd y Cynulliad

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan - Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16, gan holi Suzy Davies AC, Comisiynydd y Cynulliad, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

 

(16.30 - 16.50)

11.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

11.1 Trafododd Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o ran craffu ar adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2015-16.