Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor, gan estyn croeso i Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, hefyd.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

1.3        Croesawodd y Cadeirydd Darren Millar AS i’r Pwyllgor, yn dilyn y bleidlais a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ionawr 2021, a diolchodd i Angela Burns AS am ei gwaith ar y Pwyllgor.

 

(09.15)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2a

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Cyflwyniad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Ionawr 2021)

Dogfennau ategol:

2b

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Ionawr 2021)

Dogfennau ategol:

(09.20 - 10.35)

3.

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 9

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-04-21 Papur 1 – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Marie Brousseau-Navarro - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Heledd Morgan - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Jacob Ellis -  Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i’r rhwystrau rhag gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.

 

(10.45 - 12.00)

4.

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 10

PAC(5)-04-21 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

 

Shan Morgan – Yr Ysgrifennydd Parhaol

Simon Brindle - Cyfarwyddwr Ailgychwyn ac Adfer ar ôl Covid-19

Andrew Charles - Pennaeth Dyfodol Cynaliadwy

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu yr Argyfwng Covid

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethiant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i’r rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 -12.30)

6.

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, gan awgrymu meysydd yr oeddent yn dymuno gwneud argymhellion yn eu cylch yn yr adroddiad drafft.