Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a hefyd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(09.30 - 10.45)

2.

Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn Dystiolaeth 5

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cyngor Sir Ceredigion

Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol

Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol

 

Cyngor Sir Ynys Môn

Annwen Morgan - Prif Weithredwr

Y Cyngh. Llinos Medi – Arweinydd

Gethin Morgan - Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Ynys Môn fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.

 

 

(10.55 - 12.10)

3.

Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn Dystiolaeth 6

Cyngor Sir y Fflint

Karen Armstrong - Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol

 

Cyngor Sir Powys

Dr Caroline Turner - Prif Weithredwr

Emma Palmer - Bennaeth Trawsnewid a Chyfathrebu

 

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Powys fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.

 

(12.10 - 12.15)

4.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4a

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 Rhagfyr 2020)

Dogfennau ategol:

4b

Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr gan Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (21 Rhagfyr 2020)

Dogfennau ategol:

4c

Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Ymgysylltu â Phobl Ifanc – Crynodeb

Dogfennau ategol:

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

6.

Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.