Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00 - 13.30)

1.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-08-20 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd fân newidiadau. Bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mawrth 2020.

 

(13.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod, ac yn benodol Russell George AC a oedd yn bresennol yn ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

2.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Rhianon Passmore AC.

 

 

 

(13.30)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr oddi wrth Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyfoeth Naturiol Cymru (20 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:

3.2

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (24 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 15.00)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-20 Papur 2 - Adolygiad o berfformiad a gobeithion Maes Awyr Caerdydd yng nghyd-destun economeg meysydd awyr rhanbarthol y DU ar hyn o bryd (Adroddiad gan Northpoint Aviation, Ymgynghorydd Teithio a Thwristiaeth)

PAC(5)-08-20 Papur 3 - Maes Awyr Caerdydd: perfformiad cyfredol a’r cyd-destun busnes (Adroddiad gan Northpoint Aviation)

 

Roger Lewis – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Deb Bowen Rees – Prif Swyddog Gweithredol, Maes Awyr Caerdydd

Huw Lewis - Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni

Terry Morgan - Cyfarwyddwr Anweithredol, Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Aelodau'n holi Roger Lewis, Deb Bowen Rees, Terry Morgan a Huw Lewis fel rhan o'u hymchwiliad i Faes Awyr Caerdydd.

 

(15.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r busnes a ganlyn:

Eitem 6

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.30)

6.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.