Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC, Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon.

 

(13.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Chwefror 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.4

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (14 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.5

Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (13 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.6

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (18 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

(13.30 - 14.00)

3.

Craffu ar Gyfrifon: Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Lywodraeth Cymru

Chris Munday - Dirprwy Gyfarwyddwr Atebion Busnes, Lywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau bapur briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar warantau ac atebolrwydd amodol fel y'u cofnodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2017-18.

 

(14.00 - 14.30)

4.

Rheoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned: Papur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Papurau briffio

PAC(5)-09-19 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Trefniadau Archwilio Mewnol Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru (Ionawr 2019)

PAC(5)-09-19 Papur 2 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Rheoli Ariannol a Llywodraethu – Cynghorau Cymuned a Thref 2017-18 (Ionawr 2019)

PAC(5)-09-19 Papur 3 - Papur Trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru: Chwe thema er mwyn helpu i wneud craffu yn ‘Barod at y Dyfodol’ (Chwefror 2019)

PAC(5)-09-19 Papur 4 - Llythyr gan Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru, yn amlinellu newidiadau i weithdrefnau archwilio ar gyfer y sector cyhoeddus (21 Chwefror 2019)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol ar Gynghorau Tref a Chymuned.

4.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, a bydd hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn rhoi gwybod iddynt am y papur trafod.

 

(14.30 - 14.45)

5.

Caffael Cyhoeddus: Ystyried y llythyr drafft

PAC(5)-09-19 Papur 5 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (13 Mawrth 2019)

PAC(5)-09-19 Papur 6 – Llythyr drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft a chytunwyd arno, yn amodol ar weld yr ohebiaeth a oedd yn codi pryder ynghylch cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

 

(14.45 - 15.15)

6.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwersi a Ddysgwyd: Trafod materion allweddol

PAC(5)-09-19 Papur 7 – Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(5)-09-19 Papur 8 – Llythyr gan Brif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (14 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a godwyd drwy gydol yr ymchwiliad a chytuno ar feysydd i'w cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor.

 

(15.15 - 15.35)

7.

Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau’r meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.

 

(15.35 - 15.55)

8.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.

 

(15.55 - 16.15)

9.

Blaenraglen Waith: Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf 2019

PAC(5)-09-19 Papur 9 – Rhaglen waith ddrafft

PAC(5)-09-19 Papur 10 - Llythyr oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru: Ymgynghoriad ynghylch rhaglen waith dair-blynedd i’r dyfodol (7 Mawrth 2019)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2019 a chytunwyd arni.