Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
|
|
(13.30 - 13.35) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Rheoli meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (17 Ionawr 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 15.05) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-03-19 Papur 1 – Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd
Cymru – sylwadau ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, “Materion ehangach
sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr –
Chwefror 2016” PAC(5)-03-19 Papur 2 - Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd
Cymru – pecyn briffio Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned
Gogledd Cymru Mark Thornton – Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd
Cymru Garth Higginbotham – Is-gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned
Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd yr
Aelodau dystiolaeth gan Geoff Ryall-Harvey, y Prif Swyddog; Mark Thornton, y
Cadeirydd, a Garth Higginbotham, Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd
Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd yn sgil Adolygiad
Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 3.2 Cytunodd
Geoff Ryall-Harvey i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch: ·
Y
rhaglen o ymweliadau â chyfleusterau iechyd meddwl ers mis Mai 2017 ynghyd ag
unrhyw adroddiadau perthnasol; ·
Data
sy'n ymwneud â nifer y staff asiantaeth a gyflogir gan wasanaethau iechyd
meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a ·
Chopi
o adroddiad y Cyngor Iechyd Cymuned, Ein Bywydau ar Stop. |
|
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5,
6, 7, 8 & 9 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.05-15.25) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr
Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.25 - 15.40) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Adborth ar waith ymgysylltu'r Aelodau gyda gwasanaethau y tu allan i oriau Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau eu hymweliadau diweddar â gwasanaethau y tu allan i oriau.
|
|
(15.40 - 16.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-03-19 Papur 3 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau benodau terfynol yr adroddiad drafft gan nodi y byddai
fersiwn ddiwygiedig yn barod i'w thafod ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor ar
11 Chwefror. |
|
(16.15 - 16.30) |
Cynllun tocynnau bws rhatach Llywodraeth Cymru i bobl ifanc - Fy Ngherdyn Teithio: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-03-19 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru PAC(5)-03-19 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gytuno i gynnal
sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru. |
|
(16.30 -16.45) |
Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-03-19 Papur 6 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a nododd y byddai'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn edrych ar gostau staff
asiantaeth fel rhan o'r gwaith o graffu ar bob bwrdd iechyd dros y flwyddyn
nesaf. Cytunodd yr Aelodau i gadw llygad ar y mater hwn. |