Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 594KB) Gweld fel HTML
(393KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru. 1.3 Datganodd Lee
Waters AC fuddiant yn sgil y ffaith bod ei wraig yn cael ei chyflogi gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Eitem 4). |
|
(14.00 - 14.10) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Parhaol ynghylch yr heriau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu
yn sgil y broses ddigideiddio, ac i roi gwybod iddi fod y Pwyllgor yn dymuno
trafod y mater hwn â hi y tro nesaf y bydd yn dod i un o gyfarfodydd y
Pwyllgor. |
|
Sesiwn gychwynnol: Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar ddigideiddio (1 Mehefin 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.10 - 15.15) |
Rheoli Meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth 2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Judy Henley - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Mark Griffiths - Cadeirydd, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Mair Davies - Cyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Cheryl Way - Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Prif Fferyllydd,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Swyddog Arweiniol Cenedlaethol Rheoli
Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i
ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Judy Henley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Mark Griffiths, Cadeirydd
Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Elen Jones, Arweinydd Practis a Pholisi,
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru; a Cheryl Way, Aelod o Fwrdd y Gymdeithas
Fferyllol Frenhinol (Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a
Swyddog Arweiniol Cenedlaethol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau,
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru). 3.2 Nododd y Pwyllgor fod Elen Jones yn bresennol yn lle Mair Davies,
Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, yn sgil ei salwch. |
|
(15.30 - 16.45) |
Rheoli Meddyginiaethau: Sesiwn dystiolaeth 3 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-17-17 Papur 1 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf PAC(5)-17-17 Papur 2 – Papur gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys PAC(5)-17-17 Papur 3 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Allison Williams - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Suzanne Scott-Thomas, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Yr Athro Rory Farrelly - Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro / Dirprwy Brif
Weithredwr a Chyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg Judith Vincent - Cyfarwyddwr Clinigol Rheoli Fferylliaeth a
Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Carol Shillabeer - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Karen Gully – Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i
ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf; Suzanne Scott-Thomas, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf; yr Athro Rory Farrelly, Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro /
Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Judith Vincent, Cyfarwyddwr Clinigol Rheoli
Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg;
Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; a Karen Gully,
Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. 4.2 Cytunodd Judith Vincent i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gwaith y
mae'r Athro Routledge yn ei hwyluso gydag arbenigwyr ynghylch derbyniadau sy'n
gysylltiedig â meddyginiaethau yng nghyd-destun diogelwch cleifion. |
|
(16.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.45 - 17.00) |
Rheoli Meddyginiaethau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |