Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (935KB) Gweld fel HTML (204KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

 

(14.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunwyd ar y cofnodion a nodwyd y papurau.

2.2 Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch y bwriad o gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn mynd i'r afael â nifer o'r argymhellion a gafodd eu gwrthod yn Adolygiad Mark. Yn sgil Argymhelliad 6, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at AGIC yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd ar bractisau meddygon teulu yn ystod cyfnod penodol er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu a yw'r gyllid a roddir yn ddigonol.

 

2.1

Gofal heb ei drefnu: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.2

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (16 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (21 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.20)

3.

Cyflogau Uwch-reolwyr: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-11-16 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd eu bod yn fodlon â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y materion, ac na ofynnir am ddiweddariadau pellach. Fodd bynnag, gwnaeth yr Aelodau gais bod y Pwyllgor yn derbyn copi o Adroddiad y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus ar Dryloywder Tâl uwch aelodau staff, pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni

 

(14.20 - 15.35)

4.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Jeremy Parr - Pennaeth Rheoli Peryglon Gweithredol a Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

Jean-Francois Dulong - Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, a

Jean-Francois Dulong, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

 

(15.35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.45 - 16.00)

6.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.00 - 16.30)

7.

Blaenraglen waith – Gwanwyn 2017

PAC(5)-11-16 Papur 2 - Rhaglen waith - Gwanwyn 2017

PAC(5)-11-16 Papur 3 - Plant sy'n derbyn gofal - Papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad posibl

PAC(5)-11-16 Papur 4 - Plant sy'n derbyn gofal – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

PAC(5)-11-16 Papur 5 - Goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd - Papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad posibl

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y drafft o'r flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.

7.2 Cytunodd yr Aelodau ar amlinelliad y flaenraglen waith, a chytunwyd i ymweld â Senedd yr Alban fel rhan o'r ymchwiliad i drefn reoleiddio cymdeithasau tai.

 

(16.30-17.00)

8.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-11-16 Papur 6 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft, a gofynnwyd am nifer o argymhellion.

8.2 Bydd adroddiad drafft diwygiedig yn cael ei anfon at yr Aelodau i gytuno arno.