Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.15 - 09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2a

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (11 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:

2b

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (12 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:

(09.30 - 10.30)

3.

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Llywodraeth Cymru - Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / GIG Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Bumed Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5 a 6 a'r cyfarfodydd ar 8, 15 a 22 Mawrth 2021

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 10.50)

5.

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.

5.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion a godwyd.

 

(10.50 - 12.30)

6.

Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr adroddiad drafft, a chytuno arno

PAC(5)-07-21 Papur 1 - Adroddiad drafft

PAC(5)-07-21 Papur 2 – Datganiad ysgrifenedig Gan Lywodraeth Cymru: Llunio Dyfodol Cymru: Cyflawni’r Cerrig Milltir Llesiant Cenedlaethol a’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol ac adroddiad ar ddyfodol Cymru (19 Chwefror 2021)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymunodd Llyr Gruffydd AS â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

6.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Awgrymwyd nifer o ddiwygiadau y bydd y Pwyllgor yn eu trafod ymhellach yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2021.