Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Cyllid. |
|
(14.00) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN1 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol: Capasiti’r Senedd - 15 Mai 2020 Dogfennau ategol: |
||
PTN2 - Llythyr gan Awdurdod Cyllid Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 - 22 Mai 2020 Dogfennau ategol: |
||
PTN3 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Adroddiadau Statudol - 29 Mai 2020 Dogfennau ategol: |
||
(14.00-15.00) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Matthew Denham
Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol Margaret Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol Papurau
ategol: Papur 1 - Cynnig y
Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 Papur 2 – Llythyr
at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – 29 Mai 2020 Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaethau Ariannol; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu
Strategol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i
ysgrifennu at y Pwyllgor: ·
gan nodi faint o gyllid ychwanegol
cyffredinol ar gyfer COVID-19 y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael yn y gyllideb
atodol hon; ·
gan rannu dangosyddion perfformiad
allweddol yr adran iechyd ar gyfer mesur effeithiolrwydd y gwariant gwerth £57
miliwn i gefnogi'r Strategaeth Profi Olrhain Diogelu, o ran y cyfalaf sy'n
ofynnol i sefydlu'r rhaglen a'i chostau gweithredu; ·
a chan nodi canlyniad ei
thrafodaethau â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid ar gyfer
Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 15 Mehefin 2020 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00-15.20) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.20-15.40) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Papur ategol: Papur 3 – Trafod
blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |