Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a’r tystion i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriad gan Siân
Gwenllian AC ac Alun Davies AC. |
|
(09.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020 Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - 11 Chwefror 2020 Dogfennau ategol: |
||
(09.00-09.55) |
Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 1 David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Institute for Fiscal
Studies (Saesneg yn unig) Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillis,
Cyfarwyddwr Cysylltiol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid am effaith amrywiadau
yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. |
|
(10.00-11.00) |
Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 2 Ed Poole, Uwch-ddarlithydd mewn
Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd Guto Ifan, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant
Cymru, Prifysgol Caerdydd David Bradbury, Pennaeth yr Is-adran Polisi Trethi ac
Ystadegau, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd Bert Brys, Pennaeth Uned Polisi Trethi Gwledydd ac Uned
Trethi Personol ac Eiddo, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig: Dadansoddi Cyllid
Cymru (Saesneg yn unig) Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ed Poole, Uwch
Ddarlithydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd;
Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol
Caerdydd; David Bradbury, Pennaeth yr Is-adran Polisi Trethi ac Ystadegau, OECD
(drwy Skype); Bert Brys, Pennaeth Uned Polisi Trethi Gwledydd ac Uned Trethi
Personol ac Eiddo, OECD (drwy Skype); a Sean Dougherty, Uwch Gynghorydd, OECD
(drwy Skype) am effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac
is-genedlaethol. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00-11.20) |
Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.20-11.50) |
Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft Papur 3 – Adroddiad drafft (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y
Pwyllgor yr adroddiad ar ôl gwneud mân newidiadau. |
|
(11.50-12.00) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafodaeth cyn y Gyllideb derfynol Papur 4 - Adroddiadau’r Pwyllgorau Polisi ar Gyllideb
Ddrafft 2020-21 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor adroddiadau pwyllgorau eraill wedi
iddynt graffu ar Gyllideb ddrafft 2020-21, cyn y ddadl ar 3 Mawrth 2020. |