Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09:00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y papur.

 

2.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Adroddiad ar Alldro 2018-19

Dogfennau ategol:

(09:00-10:30)

3.

Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 – Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2014-15

Papur 2 – Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Terfynol ar Ganfyddiadau'r Archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019

Papur 3 – Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Blynyddol 2019-20

Papur 4 - Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad interim 1 Ebrill i 30 Medi 2019

Papur 5 - Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Brîff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac AD, Swyddfa Archwilio Cymru; a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o'i waith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

 

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, o'r cyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd 2019 yn ei gyfanrwydd ac o ddechrau’r cyfarfod ar 21 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

4.1     Cymeradwywyd y cynnig.

 

(10:30-10:45)

5.

Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.22.

 

(10:45-11:00)

6.

Goblygiadau ariannol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 6 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.