Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00-10.30) |
Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft Papur 1 – Adroddiad
drafft ar oblygiadau ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Papur 2 -
Llythyr gan y Llywydd ar y Bil Senedd ac Etholiadau - 7 Mai 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar ddiwygiadau. |
|
(10.30-10.45) |
Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Ystyried yr ohebiaeth a ddaeth i law Papur 3 -
Trafod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft Papur 4 -
Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad - 30 Ebrill 2019 Papur 5 -
Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru - 1 Mai 2019 Papur 6 -
Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 1 Mai 2019 Papur 7 -
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - 2 Mai 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a
chan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol a chytunodd ar y newidiadau a
gynigiwyd. |
|
(10.45-10.50) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019-20 Papur 8 -
Memorandwm Esboniadol, Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y cais gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
ynghylch cyllideb atodol cyntaf a'i nodi. |
|
(10.50-10.55) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019-20 Papur 9 -
Memorandwm Esboniadol, Cyllideb Atodol Gyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ac
Archwilydd Cyffredinol Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd
Cyffredinol Cymru ynghylch cyllideb atodol cyntaf a'u nodi. 4.2 Nododd
y Pwyllgor fod cyllideb atodol Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys dull
cyfrifyddu diwygiedig, a chytunodd i holi'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ymhellach
pan ddaw gerbron y Pwyllgor ym mis Mehefin. |
|
(10.55-11.00) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 Papur 10 -
Memorandwm Esboniadol, Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Cynulliad 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y cais gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch cyllideb atodol
cyntaf a'i nodi. |
|
(11.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 6.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 6.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. |
|
(11.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai. |
|
(11.00-12.00) |
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4 Gwyn Llewelyn, Cyfarwyddwr,
Infrastructure Advisory, KPMG LLP Stuart Pearson, Uwch Swyddog Cyswllt - Adeiladu, Ynni a Phrosiectau,
Capital Law Papur 11 – Tystiolaeth
ysgrifenedig: KPMG Papur 12 –
Tystiolaeth ysgrifenedig: Capital Law Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwyn Llewelyn, Cyfarwyddwr, Infrastructure
Advisory, KPMG LLP a chan Stuart Pearson, Uwch Swyddog Cyswllt - Adeiladu, Ynni
a Phrosiectau, Capital Law ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, y cyfarfod ar 23 Mai 2019, ac ar ddechrau'r cyfarfod ar 5 Mehefin 2019. Cofnodion: 9.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00-12.15) |
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |