Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/04/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.00-09.30 |
Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn friffio breifat Dr Toby James, Prifysgol East Anglia, Cynghorydd
Arbenigol i'r Pwyllgor Cyllid Cofnodion: 1.1 Cafodd
y Pwyllgor sesiwn friffio breifat ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gan Dr
Toby James o Brifysgol East Anglia. |
|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC, Nick Ramsay AC a Neil Hamilton AC. |
|
09.30-10.10 |
Sesiwn graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Comisiwn y Cynulliad 1
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Memorandwm Esboniadol y Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y
Cynulliad a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid. |
|
10.20-11.20 |
Sesiwn graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Comisiwn y Cynulliad 2
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Memorandwm Esboniadol y Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Llywydd, Elin Jones AC; Anna Daniel,
Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol a Tom Jackson, Rheolwr y Bil. |
|
11.20 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
11.20-11.50 |
Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
11.50-12.00 |
Trafod y flaenraglen waith Papur 1 –
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. |
|
12.00-12.10 |
Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Ystyried yr ohebiaeth a gafwyd Papur 2 –
Cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Drafft Papur 3 –
Cyrff a ariennir yn uniongyrchol: Llythyr at y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Papur 4 - Cyrff
a ariennir yn uniongyrchol: Llythyr at gyrff a ariennir yn uniongyrchol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth drafft a'r ohebiaeth arfaethedig at y cyrff a ariennir yn
uniongyrchol, gan gytuno arnynt. |