Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/03/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC a Neil Hamilton AC. |
|
09:00 |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nododd
y Pwyllgor ei siom ynghylch yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar
weithredu Deddf Cymru 2014. 2.2 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
PTN1 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Gweithredu Deddf Cymru 2014 Dogfennau ategol: |
||
09:00-10:00 |
Sesiwn graffu y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): y Comisiwn Etholiadol
FIN(5)-09-19
Papur 1: papur y Comisiwn Etholiadol ynghylch y Bil Senedd ac Etholiadau
(Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Elen Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru;
Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y DU; a Rhydian
Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru. 3.2
Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu i'r Pwyllgor ffigurau am gostau
wedi'u diweddaru yn gysylltiedig â'r broses o ddiwygio cofrestru etholiadol. |
|
10:00-10:05 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac eitem 1 o'r cyfarfod ar 4 Ebrill. Cofnodion: |
|
10:05-10:20 |
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |