Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/11/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
PTN1 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Bondiau Buddsoddi Cyfalaf – 24 Hydref 2018 Dogfennau ategol: |
||
(09.00-10.00) |
Amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019-20 Adrian
Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru Isobel
Garner, Cadeirydd, Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Kevin
Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Steve
O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol Papur 1 -
Amcangyfrif o'r Incwm a'r Treuliau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31
Mawrth 2020 Papur 2 -
Adroddiad Interim: Asesiad o'r cynnydd a wnaed o safbwynt ein Cynllun Blynyddol
ar gyfer 2018-19 yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
Cymru; Isobel Garner, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru; Kevin Thomas,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol; a Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid
ac Adnoddau Dynol. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 ac 8-10 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.00-10.15) |
Amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.15-11.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Sesiwn dystiolaeth 7 (Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol) Robert
Chote, Cadeirydd, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol,
ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. |
|
(11.15-12.00) |
Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan
Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Matthew
Jenkins, Diprwy Gyfarwyddwr, Partneriaeth a Cydweithrediad Gareth
Haven, Is-adran Cyllid Papur 3 - Llythyr gan Paul Davies AC – 31 Hydref 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Matthew Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Partneriaethau a Chydweithredu; a Gareth Haven, yr Is-adran Gyllid, ar y Bil
Awtistiaeth (Cymru). 7.2
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi nodyn i'r Pwyllgor yn nodi: ·
ei farn ar
yr heriau o ran y ffordd y caiff yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei ysgrifennu
a'r hyn sydd ar goll; a'r ·
costau
datblygu a gweithredu sy'n gysylltiedig â'r gwaith o gyflwyno'r Cod Ymarfer. |
|
(12.00-12.10) |
Bil Awtistiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.10-12.20) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.20-12.30) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Papur 4 -
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1
Cafodd Llyr Gruffydd AC ei awdurdodi gan y Pwyllgor i fod yn gyfrifol am y Bil
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), a chytunodd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes gydag amserlen ddiwygiedig. |