Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 515KB) Gweld fel HTML
(323KB) |
||
(9.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(9.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y cofnodion. |
|
(9.00-10.00) |
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Alun Davies AC -
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Emma Williams - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru Tania Nicholson - Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol
Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Emma
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru; a Tania
Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth
Cymru ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol
(Cymru). 3.2
Cytunodd y Gweinidog i wneud yr hyn a ganlyn: ·
ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu sut y bydd y pecyn
cymorth o £20 miliwn ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd ar 7 Chwefror
2017 yn hwyluso a chefnogi gweithredu'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r
Tribiwnlys Addysgiadol, gan gynnwys sut y bydd yn cael ei broffilio ar gyfer
awdurdodau lleol; ·
adrodd i'r
Pwyllgor ynghylch sut y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys
Addysgiadol yn cael ei weithredu ar ôl cwblhau'r gwaith craffu, gan amlinellu sut y bydd yn cael ei fonitro;
ac ysgrifennu
at y Pwyllgor os bydd angen rhagor o adnoddau mewn perthynas â rôl statudol
swyddog meddygol neu glinigol dynodedig, ar ôl ymgynghori â'r Grŵp
Arbenigol ar Iechyd a chynlluniau peilot. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 7 ac 8 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.00-10.15) |
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru): Trafod y Dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.25-11.25) |
Briff technegol: Awdurdod Cyllid Cymru Dyfed Alsop – Cyfarwyddwr Cyflawni ACC, Llywodraeth Cymru Claire McDonald – Rheolwr Rhaglenni Cyflawni ACC,
Llywodraeth Cymru Jo Ryder – Rheolwr Prosiect Pobl ACC, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor briff technegol ar Awdurdod Refeniw Cymru gan Dyfed Alsop,
Cyfarwyddwr Gweithredu Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru; Claire
McDonald, Rheolwr Rhaglen Weithredu Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru;
a Jo Ryder, Rheolwr Prosiect Pobl Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru. |
|
(11.25-12.15) |
Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru: Aelodaeth y Bwrdd Papur 1 – Trefniadau Llywodraethiant Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Clywodd y Pwyllgor bapur ar y trefniadau tâl a thelerau eraill ar gyfer
penodiadau'r Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a chytunwyd i ymgynghori yn unol â
gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru). |
|
(12.15-12.30) |
Goblygiadau ariannol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Papur 2 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil ynghylch Craffu Ariannol
ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil yr Undebau Llafur
(Cymru) a chytunodd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet. |