Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30-09.45)

1.

Ystyried cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Briff cyfreithiol – Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan staff y Comisiwn mewn perthynas ag adran 7 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

(09.45)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.

(09.45)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

(09.45-10.00)

4.

Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Matthew Richards - Uwch Gynghorydd Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Papur 1 – Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran talu cydnabyddiaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodwyd bod y Prif Weithredwr a'r Clerc wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog. Penderfynodd y Pwyllgor y dylai trefniadau talu cydnabyddiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru aros fel y'u nodir yn ei amodau a thelerau cyfredol.

(10.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7, 8 ac 9

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(10.00-11.30)

6.

Briffio ar y Bil Treth Trafodion Tir

Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

Repa Antonio - Rheolwr Prosiect Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru

Andrew Hewitt - Rheolwr Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru

Sean Bradley - Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru; Repa Antonio – Rheolwr Prosiect Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; Andrew Hewitt – Rheolwr Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; a Sean Bradley – Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru; ar y Bil Treth Trafodiadau Tir.

(11.30-11.45)

7.

Ystyried y dull o graffu ar y gyllideb ddrafft

Papur 2 - Dull y Pwyllgor o ran craffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor, a gynhelir yn ystod toriad yr haf.

(11.45-12.00)

8.

Ystyried rhaglen waith dros dro tymor yr hydref

Papur 3 - Papur Clawr y rhaglen waith dros dro

Papur 4 - Rhaglen waith dros dro y pwyllgor yn ystod Tymor yr Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi ei raglen waith ar ei wefan.

(12.00-12.15)

9.

Ystyried llythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru

Papur 5 - Llythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.