Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Nododd y Cadeirydd fod Mark Reckless AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

 

 

(14.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 21 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Archwilio Cymru: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – adran 118 – 27 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Craffu ar reoliadau COVID-19 – 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Data Cwynion y GIG – 27 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

(14.30-15.30)

3.

Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru 

Lindsay Foyster, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru 

Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Archwilio Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-20-20 P1 - Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben 31 Mawrth 2022

FIN(5)-20-20 P2 - Gwybodaeth ategol ar gyfer yr Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben 31 Mawrth 2022

FIN(5)-20-20 P3 - Adroddiad Interim – Asesiad o gynnydd a wnaed o’i gymharu â’n Cynllun Blynyddol 2020-21 yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2020

FIN(5)-20-20 P4 - Llythyr gan Archwilio Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru - 1 Hydref 2020

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Wrth graffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Lindsay Foyster, Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Archwilio Cymru.

 

 

(15.40-16.40)

4.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol

 

Papurau ategol:

FIN(5)-20-20 P5 - Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

FIN(5)-20-20 P6 - Dyraniadau prif grŵp gwariant

FIN(5)-20-20 P7 - Nodyn Esboniadol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am yr eitemau a ganlyn:

 

·         dadansoddiad mwy manwl o’r pecyn sefydlogi gwerth £800 miliwn i helpu GIG Cymru i ymateb i effeithiau parhaus pandemig COVID-19; a

·         nodyn ar elfen 'Brofi' strategaeth 'Profi, Olrhain a Diogelu' Llywodraeth Cymru. Yn benodol, gofynnir am wybodaeth am unrhyw newidiadau tebygol yn y dyfodol agos i'r strategaeth 'Brofi' a'r dyraniad cyllid cysylltiedig. 

 

(16.40-17.00)

5.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol

 

 

Papurau ategol:

FIN(5)-20-20 P8 - Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Marchnad Fewnol y DU gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.

 

(17.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac ar gyfer eitemau 1 a 2 yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd

Cofnodion:

6. Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(17.00-17.10)

7.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

(17.10-17.20)

8.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(17.20-17.30)

9.

Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.