Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00-09:15)

1.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn friffio breifat gydag ymgynghorydd arbenigol

Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor

 

Cofnodion:

1.1     Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio breifat gan yr ymgynghorydd arbenigol Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor.

 

(09:15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy i Nick Ramsay AC.

 

(09:15)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Nodwyd y cofnodion.

 

(09:15-10.15)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth 2

Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan

Dr Helen Tilley, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan; Dr Helen Tilley, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru; ac Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

 

 

(10.15-11.15)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth 3

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Cathy Madge, Arweinydd Ysgogi Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Alex Chapman, Ymgynghorydd, New Economics Foundation

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cathy Madge, Arweinydd Ysgogi Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol; Eurgain Powell, Ysgogwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru; ac Alex Chapman, Ymgynghorydd, Sefydliad Economeg Newydd.

 

5.2     Ymddiheurodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

 

(11.30-12.10)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth 4

Edward Evans, Cyfarwyddwr Cwmni ac Ysgrifennydd, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru

 

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Canslwyd y sesiwn hon. Ymddiheurodd Edward Evans, Cyfarwyddwr ac Ysgrifennydd Cwmni, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru

 

 

(13.00-14.00)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth 5

Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

Andy King, Aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

 

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote, Cadeirydd, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac Andy King, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

 

 

(14.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a dechrau’r cyfarfod nesaf ar 15 Ionawr 2020

Cofnodion:

8.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.00-14.30)

9.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.30-14.40)

10.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 ac Amcangyfrif 2020-21 Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 2 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru – 23 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1   Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(14.40-14.45)

11.

Cyfarwyddyd Gweinidogol - Trefniadau Pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20

Papur 3 – Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol – 20 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion: