Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. |
|
(09:00-09:50) |
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth bellach Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Christopher Warner – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a
Chyfiawnder Matthew Denham Jones – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli
Ariannol Papur 1 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a gwelliannau
drafft i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – 20 Medi 2019 Brîff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol; Christopher Warner,
Dirprwy Gyfarwyddwr – Cyfansoddiad a Chyfiawnder; a Matthew Denham-Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr – Rheolaethau Ariannol, am Fil Senedd ac Etholiadau
(Cymru). |
|
(10:00-11:00) |
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth bellach Elin Jones
AC, y Llywydd Anna
Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Manon
Antoniazzi, Prif Weithredwr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Brîff
ymchwil Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Llywydd; Anna Daniel, Pennaeth
Trawsnewid Strategol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr
a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr
Cyllid, am Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru). |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Cymeradwywyd y cynnig. |
|
(11:00-11:20) |
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Eithriodd Mark Reckless ei hun ar gyfer yr eitem hon, ac ni chyfrannodd at
adroddiad y Pwyllgor ar graffu ymhellach ar oblygiadau ariannol y Bil. 5.2
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11:20-11:35) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft Papur 2 –
Adroddiad drafft Papur 3 –
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac
Ymgysylltu) (Cymru) – 30 Awst 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(11:35-11:50) |
Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi Cenedlaethol ac Is-genedlaethol Papur 4 – Papur cwmpasu: Effaith amrywiadau mewn trethi
cenedlaethol ac is-genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd ar gylch gorchwyl yr
ymchwiliad. |
|
(11:50-12:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Y dull o gynnal gwaith craffu Papur 5:
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Dull o graffu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull diwygiedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. |
|
(12.00-12.10) |
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog - parodrwydd ar gyfer Brexit a chyllid yr UE - 20 Medi 2019 Papur 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog – parodrwydd Brexit a
chyllid yr UE – 20 Medi 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod y llythyr. |