Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/11/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.00) |
PTN 1 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio – Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) – 14 Tachwedd 2017 Dogfennau ategol: |
|
(09.00-10.00) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Sesiwn dystiolaeth 7 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu, Swyddfa
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r
Dyfodol Cymru, a Kate Carr, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a
Chyfathrebu, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ynghylch
cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2018-19. 3.2 Cytunodd y Comisiynydd i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am ei
hadborth mewn perthynas â chynlluniau peilot cyllidebu cyfranogol Llywodraeth
Cymru. |
|
(10.45-12.30) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Margaret
Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, ynghylch cyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. 4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor am faint y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ran cyllid
canlyniadol Barnett a'r lluosydd y cytunwyd arno yn y fframwaith ariannol, o
ganlyniad i gyhoeddiadau cyllideb Llywodraeth y DU. |
|
(13.00-14.00) |
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio Ian Williams, Llywodraeth Cymru Ian Walters, Llywodraeth Cymru Papur 2 - Nodyn Technegol ar gyfer yr Is-bwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Gronfa Enillion o Warediadau Bil Rheoleiddio
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai
ac Adfywio; Ian Williams, Llywodraeth Cymru; ac Ian Walters, Llywodraeth Cymru,
ynghylch Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). |
|
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 29 Tachwedd 2017 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.00-14.15) |
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(14.15-15.00) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |