Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.15-11.00)

3.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Brîff technegol

Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Datblygu Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

Emma Cordingley – Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Sarah Tully – Rheolwr Prosiect Polisi Trethi Datganoledig, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor frîff technegol gan: Georgina Haarhoff - Pennaeth Polisi Treth a Datblygu Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru; Emma Cordingley - Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru; a Sarah Tully - Rheolwr Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig, Llywodraeth Cymru ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

(11.15-11.45)

4.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Dull o gynnal gwaith craffu

Papur 1 – Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) - Dull o gynnal gwaith craffu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o gynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

(11.45-12.45)

5.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ddychwelyd ato yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

(12.45-13.00)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Cyllid Troseddol: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Cyllid Troseddol - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.