Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cymerodd yr aelodau canlynol o’r Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol ran yn eitemau 5 a 7, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49: -
David Rees AS -
Huw Irranca-Davies AS -
Nick Ramsay AS -
David Rowlands AS |
||
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch Cynnig Cyllideb Atodol diwygiedig – 2 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch cyllid a ddyrannwyd i gefnogi busnes yn ystod y pandemig – 2 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Cyllideb Llywodraeth yr Alban 2021-22 – 4 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch porthladdoedd rhydd yng Nghymru – 4 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 5 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: |
||
(09.00-10.20) |
Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr Trysorlys Gawain Evans,
Cyfarwyddwr Cyllid Debra Carter,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol Marcella Maxwell,
Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grwp Papurau
ategol: Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar waith gwaddol y
Pwyllgor Cyllid gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew
Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra
Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella
Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp. 3.2 Cytunodd y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ddarparu: -
Rhagor o wybodaeth trwy'r Gweinidog Addysg ynghylch
dyraniad cyllid ar gyfer ymchwil mewn Sefydliadau Addysg Uwch. |
|
(10.20-10.30) |
Offerynnau Statudol ym maes treth: Sesiwn dystiolaeth Papurau
ategol: FIN(5)-08-21 P1 –
Adroddiad FIN(5)-08-21 P2 -
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd – 3 Mawrth 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr offeryn statudol
ym maes treth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew
Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra
Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella
Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp. 4.2 Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog Cyllid a’r
Trefnydd a'i swyddogion am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â'r
Pwyllgor dros gyfnod y Bumed Senedd. |
|
(11.00-12.00) |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Sesiwn dystiolaeth Y Gwir
Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru Geth Williams,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru Papurau
ategol: Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Croesawu’r Aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol a wahoddwyd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem gydag
Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 5.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus
Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr
Cyfansoddiad a Pholisi, Swyddfa Cymru. 5.3 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wneud yr hyn a
ganlyn: -
Darparu rhagor o wybodaeth am statws Gwynedd fel ardal
categori 3 mewn perthynas â'r Gronfa Codi’r Gwastad. -
Siarad â Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch rheolaeth
Trysorlys Ei Mawrhydi o ran faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei
drosglwyddo o’r ‘grant bloc’ i’r flwyddyn ariannol nesaf. -
Archwilio honiadau Llywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith
ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas at
y diben gyda Thrysorlys EM. 5.4 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau presennol a
chyn-aelodau'r Pwyllgor Cyllid, ac i'r holl randdeiliaid a thystion, am eu cyfraniadau
gwerthfawr dros gyfnod y Bumed Senedd. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 17 Mawrth 2021 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00-12.10) |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.10-12.20) |
Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.20-12.25) |
Offerynnau Statudol ym maes treth: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law,
gan gytuno i gyflwyno adroddiad ar yr offeryn statudol. |
|
(12.25-12.50) |
Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft: Trafod yr adroddiad drafft Papurau
ategol: FIN(5)-08-21 P3 -
Adroddiad drafft ar y trafodaethau ynghylch yr ymgynghoriad ar y Bil Archwilio
Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft FIN(5)-08-21 P4 - Bil
Archwiliad Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft FIN(5)-08-21 P5 -
Nodiadau Esboniadol FIN(5)-08-21 P6 -
Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |