Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Addysg ynghylch Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Ymateb diwygiedig i argymhellion adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 23 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

(09:30-10:15)

3.

Comisiwn y Senedd - Dull o gynllunio prosiectau: Sesiwn dystiolaeth

Suzy Davies AS, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papurau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AS, y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid y Senedd ynghylch dull y Comisiwn o ran cynllunio prosiectau.

 

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15-10.30)

5.

Comisiwn y Senedd - Dull o gynllunio prosiectau: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30-11.00)

6.

Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

FIN(5)-07-21 P1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.