Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AS.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Cadeirydd: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21 - 23 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

(09.30-11.15)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 1

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb,  Llywodraeth Cymru

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu

 

Papurau ategol:

Cyllideb Ddrafft 2021 i 2022

FIN(5)-01-21 P1 - Llyfryn ymatebion i’r ymgynghoriad

FIN(5)-01-21 P2 - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

FIN(5)-01-21 P3 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Cyfrifoldebau'r Cwnsler Cyffredinol - 23 Rhagfyr 2020

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb, Llywodraeth Cymru; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i wneud yr hyn a ganlyn:

·         rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor treth incwm;

·         rhannu'r dadansoddiad o’r wybodaeth a gasglwyd gan yr holl golegau ynghylch effaith y cyfrifon dysgu personol;

·         rhannu gwybodaeth am gostau newid y meini prawf ar gyfer prydau ysgol am ddim; a

·         rhannu’r dadansoddiad o effaith creu band treth uwch ar gyfer trafodion eiddo amhreswyl.

 

 

 

(11.15-11.30)

4.

Offerynnau Statudol ym maes treth: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb, Llywodraeth Cymru

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu

 

Papurau ategol:

FIN(5)-01-21 P4 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

SUB-LD13969 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

SUB-LD13969-EM - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 - Memorandwm Esboniadol

 

FIN(5)-01-21 P5 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) Cymru) (Diwygio) 2021

SUB-LD13973 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) Cymru) (Diwygio) 2021 

SUB-LD13973-EM - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) Cymru) (Diwygio) 2021 - Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

FIN(5)-01-21 P6 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

SUB-LD13968 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 

SUB-LD13968-EM Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 - Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

FIN(5)-01-21 P7 - Llythyr gan y Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Newidiadau yng Nghyfradd Uwch Treth Trafodiadau Tir - 5 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb, Llywodraeth Cymru; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ynghylch offerynnau statudol ym maes treth.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-11.45)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.45-12.00)

7.

Offerynnau Statudol ym maes treth: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i gyflwyno adroddiad ar yr offerynnau statudol.

 

(12.00-12.10)

8.

Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Ymchwiliad i'r Fframwaith Cyllidol; a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Papurau ategol:

FIN(5)-01-21 P8 – Drafft llythyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.

 

(12.10-12.15)

9.

Trafod y flaenraglen waith

Papurau ategol:

FIN(5)-01-21 P9 – Blaenraglen Waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.