Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

 

 

09:30-09:40

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)560 – Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

2.2

SL(5)562 – Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-21-20 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 19 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

2.3

SL(5)565 – Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Bydd y Pwyllgor yn anelu at gael trafodaethau pellach am yr offeryn pan geir ymateb Llywodraeth Cymru, cyn cyflwyno adroddiad i'r Senedd.

 

2.4

SL(5)566 – Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 11 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 12 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

2.5

SL(5)563 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 14 - Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 15 - Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-21-20 – Papur 17 – Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 19 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

2.6

SL(5)564 – Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 18 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 19 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 20 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-21-20 – Papur 21 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg at y Llywydd, 22 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

09:40-09:45

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

3.1

SL(5)152 – Rheoliadau Deunyddiau Planhigion Llysieuol a Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 22 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 23 – Rheoliadau

CLA(5)-21-20 – Papur 24 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

09:45-09:50

4.

Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

4.1

SL(5)567 – Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 25 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 26 – Hysbysiad

CLA(5)-21-20 – Papur 27 – Datganiad ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr Hysbysiad a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i geisio eglurhad ar ddyddiadau a ddyfynnir yn yr Hysbysiad a’r Datganiad Ysgrifenedig.

 

4.2

SL(5)571 – Addasu adran 3 o Ddeddf Addysg 1996 (Cymru) 2020

CLA(5)-21-20 – Papur 28 – Adroddiad

CLA(5)-21-20 – Papur 29 – Hysbysiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr Hysbysiad a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

09:50-09:55

5.

Papur(au) i’w nodi:

5.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i’r adroddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Pysgodfeydd

CLA(5)-21-20 – Papur 30 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 30 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

09:55

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

09:55-10:15

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-21-20 – Papur 31 – Adroddiad drafft

CLA(5)-21-20 – Papur 32 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 29 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf.

 

10:15-10:30

8.

Blaenraglen Waith – trafodaeth

CLA(5)-21-20 – Papur 33 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ddrafft ar gyfer tymor yr hydref.