Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

12.45

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC a Suzy Davies AC. Roedd Paul Davies AC yn bresennol i ddirprwyo ar ran Suzy Davies AC.

 

Esboniodd y Cadeirydd fod eitemau 4, 7 ac 8 ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'u gohirio oherwydd amgylchiadau annisgwyl, a bod trefn busnes y cyfarfod wedi'i haddasu oherwydd hynny.

 

14.30-14.35

5.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

5.1

SL(5)487 - Rheoliadau Treth Gwrediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-03-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-03-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-03-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-03-20 – Papur 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 6 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

14.35 - 14.40

6.

Papur(au) i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

CLA(5)-03-20 – Papur 5 – Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 13 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

CLA(5)-03-20 – Papur 6 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 14 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

6.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

CLA(5)-03-20 – Papur 7  – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 14 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

 

6.4

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

CLA(5)-03-20 – Papur 8  – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, 14 Ionawr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

 

6.5

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

CLA(5)-03-20 – Papur 9 - Llythyr gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 16 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac, mewn cyfarfod preifat, cytunodd i barhau â’r ohebiaeth â’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch gofynion y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

12.45 - 13.15

3.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)

CLA(5)-03-20 – Nodyn cyngor cyfreithiol

CLA(5)-03-20 – Papur briffio 1

CLA(5)-03-20 – Papur 10 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), ac fe’i derbyniwyd.

 

13.15-14.30

4.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth - GOHIRIWYD

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cath Wyatt, Rheolwr Bil, y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), Llywodraeth Cymru

Eoghan O'Regan, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Christopher Humphreys, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(5)-03-20 – Papur briffio 2

 

Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad am y Bwriad Polisi

 

Dogfennau ategol:

14.40

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: - GOHIRIWYD:

14.40-15.00

8.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth - GOHIRIWYD