Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod – yn unol â Rheol Sefydlog 34.19 – wedi penderfynu bod y cyhoedd yn cael eu heithrio o gyfarfod y Pwyllgor, er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

09.30-09.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-05-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiad clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)730 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

2.2

SL(5)733 – Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

09.35-09.40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)737 – Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-05-21 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-05-21 – Papur 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 28 Ionawr 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(5)731 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 6 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 7 – Rheoliadau

CLA(5)-05-21 – Papur 8 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(5)732 – Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 9 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 10 – Rheoliadau

CLA(5)-05-21 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(5)738 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 12 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 13 – Rheoliadau

CLA(5)-05-21 – Papur 14 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-05-21 – Papur 15 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 28 Ionawr 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 16 – Datganiad ysgrifenedig, 28 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.5

SL(5)698 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 17 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 18 – Rheoliadau

CLA(5)-05-21 – Papur 19 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-05-21 – Papur 20 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 29 Ionawr 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 21 – Datganiad ysgrifenedig, 29 Ionawr 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

09.40-09.45

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(5)721 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 22 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 23 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

4.2

SL(5)724 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 24 – Adroddiad

CLA(5)-05-21 – Papur 25 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

09.45-09.50

5.

Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

CLA(5)-05-21 – Papur 26 – Is-ddeddfwriaeth sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

5.1

SL(5)734 – Cod Ymarfer a Chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod Ymarfer ac roedd yn fodlon arno.

 

09.50-09.55

6.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(5)216 – Rheoliadau Bwyd a Diod (Diwygiadau Amrywiol sy'n Ymwneud â Chyfansoddiad, Gwybodaeth a Labelu Bwyd a Gwin) 2021

CLA(5)-05-21 – Papur 27 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-05-21 – Papur 28 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

09.55-10.00

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Craffu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus – Rheol Sefydlog 21.3C(iv)

CLA(5)-05-21 – Papur 29 – Llythyr gan y Parch Ruth Coombs, Pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, 3 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac, yn breifat, cytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi'r dogfennau asesu.

 

7.2

Llythyr oddi wrth Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

CLA(5)-05-21 – Papur 30 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 3 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymateb i argymhellion y Pwyllgor mewn perthynas â'r Bil.

 

10.00

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-05-21 – Papur 31 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.

 

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod y materion allweddol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

CLA(5)-05-21 – Papur 32 – Cyngor cyfreithiol

CLA(5)-05-21 – Papur 33 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 16 Rhagfyr 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 34 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 15 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 35 – Llythyr at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 13 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 36 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 6 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 37 – Llythyr at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 30 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

14.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y materion allweddol

CLA(5)-05-21 – Papur 38 – Papur ar faterion allweddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor y byddai'n cynnal sesiynau tystiolaeth gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a chyda Chomisiwn y Gyfraith yn ei gyfarfod nesaf.

 

12.

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – papur briffio

CLA(5)-05-21 – Papur 39 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU.

 

13.

Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-05-21 – Papur 40 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 3 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.