Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi’u gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 2.

 

09.00-10.00

2.

Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF AS, yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder

 

CLA(5)-06-21 – Papur briffio

CLA(5)-06-21 – Papur 1 – Llythyr oddi wrth Alex Chalk AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

CLA(5)-06-21 – Papur 2 – Llythyr at yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 19 Mehefin 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru.

 

10.45-11.30

3.

Cyfiawnder yng Nghymru a chynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru – sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr

Mr Nicholas Paines CF, Comisiynydd y Gyfraith

Henni Ouahes, Pennaeth Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, Comisiwn y Gyfraith

Sarah Smith, Cyfreithiwr Diwygio'r Gyfraith, Comisiwn y Gyfraith

 

CLA(5)-06-21 – Papur briffio 2

CLA(5)-06-21 – Papur 3 – Llythyr oddi wrth Nicholas Paines CF, 20 Ionawr 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 4 - Gohebiaeth oddi wrth Nicholas Paines CF, 17 Rhagfyr 2020

 

Comisiwn y Gyfraith – Papur Ymgynghori ar Dribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'i gynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

 

11.30-11.35

4.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-06-21 – Papur 5 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

4.1

SL(5)740 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

4.2

SL(5)742 – Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

11.35-11.40

5.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

5.1

SL(5)735 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 6 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 7 – Rheoliadau

CLA(5)-06-21 – Papur 8 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-06-21 – Papur 9 – Datganiad ysgrifenedig, 27 Ionawr 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, a gwneud cais am ymateb i’r pwynt gan Lywodraeth Cymru.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod cynnig i ddirymu'r Rheoliadau wedi'i gyflwyno, ac y trefnwyd i'r ddadl gyfatebol gael ei chynnal ar 3 Mawrth 2021.

 

5.2

SL(5)741 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 10 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 11 – Rheoliadau

CLA(5)-06-21 – Papur 12 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

5.3

SL(5)743 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 13 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 14 – Rheoliadau

CLA(5)-06-21 – Papur 15 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

5.4

SL(5)736 – Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 16 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 17 – Rheoliadau

CLA(5)-06-21 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-06-21 – Papur 19 – Datganiad ysgrifenedig, 27 Ionawr 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig, 3 Chwefror 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y byddai Llywodraeth Cymru yn gosod fersiwn newydd o'r Rheoliadau cyn bo hir.

 

11.40-11.45

6.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

6.1

SL(5)695 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

CLA(5)-06-21 – Papur 21 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 22 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

11.45-11.50

7.

Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i'w hadrodd i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – ystyriwyd yn flaenorol

7.1

SL(5)727 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 23 – Adroddiad

CLA(5)-06-21 – Papur 24 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

11.50-11.55

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheoli Organig (Diwygio) 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 25 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 5 Chwefror 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

8.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i’r Llywydd. Busnes y Senedd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad

CLA(5)-06-21 – Papur 26 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Llywydd, 9 Chwefror 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

8.3

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Diwygiadau i Fil Masnach y DU

CLA(5)-06-21 – Papur 27 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 10 Chwefror 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

8.4

Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith

CLA(5)-06-21 – Papur 28 – Adroddiad Llywodraeth Cymru

CLA(5)-06-21 – Papur 29 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

8.5

Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Confensiwn Sewel

CLA(5)-06-21 – Papur 30 – Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 16 Chwefror 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 31 – Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 21 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

11.55

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

11.55-12.15

10.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiynau gyda'r Arglwydd Ganghellor a chyda Comisiwn y Gyfraith, a thrafododd faterion allweddol a fyddai'n cael eu codi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor.

 

12.15-12.25

11.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-06-21 – Papur 32 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd arno.  Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

12.25-12.30

12.

Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-06-21 – Papur 33 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 17 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.