Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Cafwyd cadarnhad
gan y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd
y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
|
09.30-10.30 |
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): Sesiwn dystiolaeth Julie James, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Christopher Warner,
Dirprwy Gyfarwyddwr – y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru Dorian Brunt, Uwch
Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws) (fel y'i cyflwynwyd) Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws) – Memorandwm Esboniadol CLA(5)-04-21 –
Papur briffio CLA(5)-04-21 –
Papur 1 - Crynodeb o’r
Bil CLA(5)-04-21 – Papur 2 - Datganiad ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Bil
Etholiadau Cymru (Coronafeirws). |
|
10.30-10.35 |
Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)729 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 3 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 4 – Rheoliadau CLA(5)-04-21 –
Papur 5 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-04-21 –
Papur 6 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 22 Ionawr 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 7 – Datganid ysgrifenedig,
22 Ionawr 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn, yn ogystal â’r ymateb gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i law
yn ystod y trafodion, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)728 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 8 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 9 – Rheoliadau CLA(5)-04-21 –
Papur 10 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-04-21 – Papur 11 – Llythyr gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 21 Ionawr 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 12 – Datganiad
ysgrifenedig, 21 Ionawr 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
10.35-10.40 |
Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(5)703 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 CLA(5)-04-21 –
Papur 13 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 14 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru |
||
SL(5)707 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 CLA(5)-04-21 –
Papur 15 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 16 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(5)723 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 17 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 18 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(5)725 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 19 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 20 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(5)726 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 21 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 22 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
10.40-10.45 |
Is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
SL(5)727 - Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 23 – Adroddiad CLA(5)-04-21 –
Papur 24 – Cod Ymarfer CLA(5)-04-21 –
Papur 25 – Memorandwm
Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y Cod Ymarfer a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
10.45-10.50 |
Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol) |
|
SICM(5)39 - Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Addysg, Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 26 – Memorandwm
Cydsyniad Offeryn Statudol CLA(5)-04-21 –
Papur 27 – Rheoliadau CLA(5)-04-21 –
Papur 28 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-35-20 –
Papur 29 – Llythyr gan y Dirprwy
Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol CLA(5)-04-21 –
Papur 30 – Datganiad
ysgrifenedig CLA(5)-04-21 –
Papur 31 – Sylwadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r
sylwebaeth. |
||
10.50-10.55 |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 32 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 25 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd, yn
ystod y sesiwn breifat, i ysgrifennu yn ôl i ofyn am ragor o wybodaeth am y
Rheoliadau. |
||
Gohebiaeth â'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder: Gwneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru CLA(5)-04-21 –
Papur 33 – Llythyr gan yr
Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 28 Ionawr 2021 CLA(5)-04-21 –
Paper 34 – Llythyr at yr
Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 22 Rhagfyr 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth, gan nodi hefyd bod trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi’r
Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi tystiolaeth
i’r Pwyllgor fel rhan o’i ymchwiliad i wneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru. |
||
10.55 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
10.55-11.25 |
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) – trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol a chytunodd i gwblhau ei adroddiad y tu allan i gyfarfod y
Pwyllgor, cyn ei osod mewn pryd ar gyfer y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd
wedi’i threfnu ar gyfer 2 Chwefror 2021. |
|
11.25-11.40 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-04-21 –
Papur 35 – Adroddiad
drafft CLA(5)-04-21 –
Papur 36 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 26 Ionawr 2021 CLA(5)-04-21 –
Papur 37 – Llythyr
at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 23 Rhagfyr 2020 CLA(5)-04-21 –
Papur 38 – Llythyr
gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 28 Awst 2020 CLA(5)-04-21 –
Papur 39 – Nodyn
Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i
drafod drafft arall o’i adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
11.40-11.45 |
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – sesiwn friffio CLA(5)-04-21 –
Papur 40 – Papur briffio
gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio’r sesiwn friffio tan y cyfarfod nesaf. |
|
11.45-11.50 |
Fframweithiau cyffredin – y wybodaeth ddiweddaraf CLA(5)-04-21 –
Papur 41 – Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 28 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. |